Gwrthwynebiad Cydwybodol y Saith Heddychwr Treth i Dalu Treth at Ddibenion Milwrol
Sign Now
1. Yn erbyn cael ein gorfodi i dalu cyfran o'n trethi tuag at ddibenion milwrol.
2. Yn sefyll dros hawl gwrthwynebwyr cydwybodol i dalu eu trethi'n llawn heb gyfrannu at baratoadau rhyfel.
3. Yn credu bod hyn yn deg, yn gyfiawn ac yn ymarferol bosibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i drefnu'n unol в hyn.
Nodyn i egluro: (Mae'r SAITH HEDDYCHWR TRETH yn grŵp o saith o ddinasyddion a threthdalwyr y DU sydd am wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas wrth dalu eu trethi'n llawn. Maent yn gwrthwynebu'n gydwybodol dalu i eraill ladd ar eu rhan, ond nid yw polisпau treth cyfredol yn caniatбu iddynt wneud hynny. Mae pob un ohonynt wedi ceisio dargyfeirio y canran o'u treth incwm sy'n cael ei wario ar ryfel at ddibenion heddwch. Ym mhob achos gwadwyd iddynt yr hawl i wneud hyn, ac maent felly'n wynebu cyfyng gyngor: naill ai talu'r trethi'n llawn a thrwy hynny gyfrannu at ladd, neu ddilyn eu cydwybod ac atal rhan o'u trethi a thrwy hynny dorri'r gyfraith. Mae eu safiad wedi eu rhoi o flaen eu gwell neu fygythiad o hynny. Gwrthwynebant yn gydwybodol yr orfodaeth filwrol ariannol yma ac yn credu bod ei sail gyfreithiol yn amheus. Oherwydd hyn maent yn ceisio arolwg barnwrol o polisi treth cyfredol y DU ar y mater yma)
If you already have an account please sign in, otherwise register an account for free then sign the petition filling the fields below.
Email and password will be your account data, you will be able to sign other petitions after logging in.
Continue with Google